Ein Hymchwil
Croeso i wefan Arsyllfa Wledig Cymru.
Mae'r AWC yn dod i ben ar Mawrth 31.
Sefydlwyd Arsyllfa Wledig Cymru yn 2003 i ymgymryd â gwaith ymchwil a dadansoddi annibynnol ar faterion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol yng Nghymru wledig. Fe’i hariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EARDF) i gefnogi’r broses o lunio polisïau gwledig yng Nghymru sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Caiff yr Arsyllfa ei gweithredu gan dîm o ymchwilwyr gwledig arbenigol yn Ysgol Cynllunio a Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd a Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Bydd adroddiadau'r AWC yn parhau i fod ar y wefan.