Ein Hymchwil Cyfredol

 


Pobl Ifanc yng Nghymru Wledig ADRODD I DDILYN YN FUAN


Mae proffil demograffig y Gymru wledig, o’i gymharu â gweddill Cymru, yn hyn, mae’n dangos tuedd tuag at boblogaeth sy’n heneiddio ac, yn arwyddocaol ddigon, mae’n cynnwys rhy ychydig o bobl ifanc  15-30 oed. Mae llawer o’r rheswm am y diffyg cydbwysedd demograffig hwn wedi’i briodoli i’r duedd gynyddol ymhlith pobl ifanc ar ddechrau eu bywyd gwaith i ymadael â’u cymunedau gwledig gartref i chwilio am gyfleoedd ehangach mewn addysg, cyflogaeth a chymdeithas mewn mannau eraill. Mae astudiaethau diweddar yn dangos bod y broses hon yn cael ei sbarduno gan nifer o ffactorau, gan gynnwys y nifer cyfyngedig o gyfleoedd mewn addysg bellach ac uwch yn lleol, ansawdd isel swyddi, cyflogau isel, diffyg cludiant cyhoeddus a’r anawsterau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu wrth geisio sicrhau rhywle fforddiadwy i fyw. Mae colli doniau ifanc hyddysg o gefn gwlad yn sgil hyn, ar y cyd â mewnfudiad net pobl hyn i ardaloedd gwledig, wedi peri pryder eang ynghylch cynaliadwyedd cymunedau gwledig Cymru yn y tymor hir o ran economi, diwylliant a chymdeithas.  Nod yr ymchwil hon fydd sicrhau gwell dealltwriaeth o ddewisiadau pobl ifanc yn y Gymru wledig ynglyn ag ymfudo, drwy hoelio sylw yn benodol ar argraffiadau pobl ifanc sy’n byw mewn gwahanol rannau o gefn gwlad Cymru, y prosesau penderfynu allweddol sy’n dod cyn i bobl ymfudo allan a’r ffactorau allweddol sy’n dylanwadu ar benderfyniadau pobl ifanc i aros yn y fan lle cawson nhw eu magu neu ymadael. 


 

Cymraeg