Ymchwil Diweddar

 

Prosiectau ac adroddiadau ymchwil Arsyllfa yn ddiweddar-a gwblhawyd yn cynnwys y canlynol:


Dadansoddiad o Effaith Economaidd Gymdeithasol Diwygiadau i'r Pac ar GefnGwlad Cymru

Adroddiad Camau 1 a 2

Adroddiad Camau 3,4 a 5

Adroddiad Cam 6


Trosglwyddo Gwybodaeth ac Arloesedd


Yr oedd y prosiect hwn yn ystyried sut y gall Cymru ddefnyddio’r rhwydweithiau a’r strwythurau sydd ganddi eisoes, a defnyddio rhai newydd, i fanteisio ar agenda Arloesi.  Yn benodol, ceisiodd rhoi sylw i’r cyfleoedd a fydd yn cael eu cynnig gan Reoliadau RDP 2014-2020 o ran Trosglwyddo Gwybodaeth, Cydweithredu a Phartneriaeth Arloesi Ewrop (EIP) yn y Cynllun Datblygu Gwledig nesaf.

Y cefndir

Mae yna lawer o enghreifftiau o brosiectau Trosglwyddo Gwybodaeth ar waith yng Nghymru a hynny mewn sawl sector a sefydliad. Mae hyn yn amrywio o gymorth BETS Llywodraeth Cymru i helpu’r byd academaidd i ddatblygu a phrif-ffrydio prosesau i ategu twf busnesau i Gyswllt Ffermio, sy’n anelu at helpu i gynyddu effeithlonrwydd a sgiliau’r diwydiant amaethyddol. Oherwydd amrediad y gweithgareddau ynglŷn â Throsglwyddo Gwybodaeth yng Nghymru a’i bwysigrwydd yn y Cynllun Datblygu Gwledig nesaf ar gyfer 2014-2020, mae’n hanfodol ein bod yn mesur ei effeithiolrwydd ac yn penderfynu ble y gall y gweithgarwch gael ei wella a’i ddatblygu er mwyn bwrw ymlaen yn ystod cyfnod nesaf y rhaglen.

Nod Partneriaeth Arloesi Ewrop (EIP) ar “Gynhyrchedd a Chynaliadwyedd Amaethyddiaeth” yn y cyfnod 2014-2020 yw mynd i’r afael â’r ddwy her fwyaf sylfaenol sy’n wynebu amaethyddiaeth Ewrop, yn ôl pob tebyg, yn gynnar yn yr 21ain ganrif - sut i gynyddu cynhyrchedd a’r hyn sy’n cael ei gynhyrchu er mwyn ymateb i’r twf arwyddocaol yn y galw am fwyd ledled y byd; a sut i wella cynaliadwyedd ac effeithlonrwydd adnoddau a mynd i’r afael â materion yr amgylchedd, megis colli bioamrywiaeth.

Nod yr EIP yn fras yw hybu amaethyddiaeth a choedwigaeth gystadleuol a chynaliadwy sy’n ‘sicrhau mwy â llai’ o fewnbwn ac sy’n gweithio mewn cytgord â’r amgylchedd.  I wireddu’r nod hwn, mae angen i’r EIP godi pontydd rhwng ymchwilio ac ymarfer.  Yr EIP fydd y catalydd tuag at amaethyddiaeth sydd wedi’i seilio ar wybodaeth a bydd rhwydwaith yr EIP yn helpu i roi hwb i gydweithredu a chyfathrebu rhwng gwyddoniaeth ac ymarfer.  Bydd yr EIP yn eang iawn ei rychwant: gall arloesi olygu technoleg, arferion neu fathau o drefniadaeth (gan gynnwys trefniadaeth gymdeithasol).

Bydd y Comisiwn Ewropeaidd yn sefydlu Rhwydwaith EIP i hwyluso’r cyfathrebu a’r cyfnewid o ran gwybodaeth sy’n gysylltiedig ag arloesi, canlyniadau ymchwil, anghenion ymarferol, gwersi sydd wedi’u dysgu, etc.

Y nod

Diben y prosiect oedd mapio ffynonellau cymorth ar gyfer Trosglwyddo Gwybodaeth, Arloesi ac ymyriadau tebyg i’r EIP yng Nghymru, boed ar lefel Cymru, y Deyrnas Unedig neu’r Undeb Ewropeaidd.  Yr oedd y prosiect hefyd yn cynnig argymhellion i fwydo gwaith Llywodraeth Cymru wrth iddi ddatblygu Cynllun Datblygu Gwledig newydd i Gymru ar gyfer 2014-20.

Yr amcanion

Dyma amcanion y prosiect:

1.   mapio’r mudiadau, y sefydliadau cyhoeddus a phreifat a’r rhaglenni presennol sy’n berthnasol ar gyfer Trosglwyddo Gwybodaeth, Arloesi a’r EIP ar lefel Cymru, y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd yn gysylltiedig â’r chwe blaenoriaeth yn Rheoliadau RDP 2014-2020;

2.   penderfynu sut mae’r uchod yn mynd ati ar hyn o bryd i symbylu arloesedd sy’n berthnasol i’r RDP, eu gallu a’u lefel llwyddiant.

3.   gwneud argymhellion ynglŷn ag elfennau Trosglwyddo Gwybodaeth, Arloesi a’r EIP yn rhaglen yr RDP at y dyfodol.

Cliciwch yma i lawrlwytho'r adroddiad.


2. Penderfyniadau Ffermwyr


Trosolwg: Mae’r ymchwil hon yn mynd i’r afael â chwestiwn penderfyniadau ffermwyr er mwyn bwydo dulliau polisi amaeth-amgylchedd a pholisïau gwledig eraill, sy’n targedu gwaith i gyflawni nwyddau a gwasanaethau ecosystemau. Yn benodol, mae’r gwaith wedi’i fwriadu i fwydo’r dasg o gyflawni Fframwaith Amgylchedd Naturiol a Chynllun Datblygu Gwledig Cymru, ynghyd â chynllunio diwygiadau’r PAC a mesurau polisi amaethyddol yn y dyfodol i wella gwytnwch a chynaliadwyedd ffermio yng Nghymru.   

Dulliau: Dulliau Cymysg, 60 o gyfweliadau lled-strwythuredig â ffermwyr a rhanddeiliaid allweddol a data meintiol eilaidd o Arolwg yr Arsyllfa o Deuluoedd Ffermio ac Arolygon Busnes Ffermydd IBERS.    

Graddfa Ofodol: data meintiol yn cynrychioli Cymru ar lefel genedlaethol; y sampl gyfweliadau yn genedlaethol ac wedi’i dewis ar sail maint y fferm (ESU) er mwyn creu sampl weddol gynrychioliadol (er nad oedd yn arwyddocaol yn ystadegol); cynhaliwyd cyfweliadau hefyd â grwpiau astudiaethau achos lle’r oedd gwasanaethau ecosystemau yn cael eu harloesi.

Themâu: Yr Economi Gwledig a Chyflogaeth; Yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Chynllunio Defnyddio Tir

Cliciwch yma i lawrlwytho'r adroddiad.


3. Tyfu Bwyd yn y Gymuned yng Nghymru 


Trosolwg: Yn 2010 comisiynodd Llywodraeth Cymru Arsyllfa Wledig Cymru i gynnal adolygiad i ddod o hyd i’r hyn a allai gael ei wneud i hybu a hyrwyddo ‘Tyfu Cymunedol’ yng Nghymru. Rhoddodd yr ymchwil archwiliad manwl o’r gweithgareddau cyfredol sy’n ymwneud â chynhyrchu a dosbarthu ‘bwyd a dyfir yn gymunedol’ yng Nghymru, gan ganolbwyntio’n benodol ar bedwar maes gweithgaredd, sef Amaethyddiaeth a Gefnogir gan y Gymuned [CSA], gerddi cymunedol, garddio ar randiroedd a gweithgareddau ynglyn â thyfu bwyd yn gymunedol mewn ysgolion. Yn ogystal ag amlygu’r arferion gorau, ceisiodd yr ymchwil nodi’r rhwystrau presennol sy’n atal pobl rhag mabwysiadu gweithgareddau tyfu bwyd yn gymunedol, gan ddefnyddio dadansoddiad manwl o ddata o gyfweliadau ac arolygon.

Dulliau: Cafwyd chwe chyfnod ymchwil yn ystod y prosiect. Yn gyntaf, cyfwelwyd â’r rhanddeiliaid allweddol ac â swyddogion o Lywodraeth Cymru a oedd yn aelodau o Grwp Gorchwyl a Gorffen Tyfu Bwyd yn Gymunedol, a chynrychiolwyr o’r awdurdodau lleol yng Nghymru. Roedd y cyfnod cyntaf hefyd yn cynnwys adolygiad wrth y ddesg o unrhyw weithgareddau tyfu cymunedol a gwblhawyd neu a oedd yn parhau ac a gafodd gymorth o dan Gynllun Datblygu Gwledig Cymru (RDP) 2007-2013. Yn ail, cafwyd arolwg cynhwysfawr o’r holl brosiectau tyfu cymunedol hysbys yng Nghymru. Yn drydydd, ac yn sgil yr arolwg, dewiswyd 20 o brosiectau tyfu cymunedol i’w harchwilio’n fanylach. Fel rhan o’r gwaith manwl ar yr astudiaethau achos hyn, cafwyd cyfres o gyfweliadau hefyd â chynrychiolwyr sefydliadau tyfu cymunedol yn Lloegr a’r Alban er mwyn cymharu data ac enghreifftiau o’r arferion gorau mewn tyfu cymunedol mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Yn bedwerydd, cafwyd archwiliad manwl ar lefelau presennol tyfu bwyd yn gymunedol mewn ysgolion drwy gyfrwng holiadur i holl ysgolion Cymru. Yn olaf, cynhaliwyd grwp ffocws gydag aelodau’r Grwp Gorchwyl a Gorffen a chyfres o drafodaethau mewn gweithdai gyda chynrychiolwyr o brosiectau tyfu cymunedol Ledled Cymru.

Graddfa Ofodol: Cymru gyfan    

Themâu: Rhandiroedd, Gerddi cymunedol, CSA, Garddio yn yr ysgol, Bwyd lleol,  Iechyd a Lles, Cynaliadwyedd.   

Cliciwch yma i lawrlwytho'r adroddiad.


                                                                  

 

Cymraeg