Archif Ymchwil

Ceir gwybodaeth ŷnglyn â rhaglen waith yr Arsyllfa ar gyfer 2007-2013 isod, ynghŷd â chysylltiadau i'r adroddiadau.


1. Gweithwyr Mudol o Ddwyrain a Chanol  Ewrop yng Nghymru Wledig

Edrychodd y prosiect hwn ar nodweddion, profiadau a bwriadau gweithwyr mudol o’r gwladwriaethau sydd wedi’u derbyn i’r Undeb Ewropeaidd yng Nghanol a Dwyrain Ewrop yng nghefn gwlad Cymru. Roedd yr ymchwil yn cynnwys cyfweliadau â rhanddeiliaid allweddol a dadansoddi data ynghylch Yswiriant Gwladol a chofrestru ar y Cynllun Cofrestr Gweithwyr, ar y cyd â chyfweliadau strwythuredig â 100 o weithwyr mudol mewn pedair ardal astudio. Cafodd y cyfweliadau eu cynnal mewn Pwyleg yn bennaf gan ddilyn holiadur strwythuredig a oedd yn cynnwys cwestiynau a oedd yn cynnwys cefndir yr atebwr, eu rhesymau dros ddod i Gymru, cyflogaeth, tai, cydadweithio â’r gymuned leol a bwriadau at y dyfodol. Daethpwyd o hyd i’r atebwyr drwy ddefnyddio dull caseg eira, gyda 25 o gyfweliadau ym mhob ardal astudio, sef Betws-y-coed/Llanrwst, Sir Gaerfyrddin/Ceredigion, Hwlffordd/ Aberdaugleddau, a’r Trallwng. Nododd yr ymchwil gefndiroedd a phrofiadau amrywiol gweithwyr mudol yng Nghymru, gan gynnig dull o gategoreiddio gweithwyr mudol i bedwar grŵp o ‘weithwyr gwadd newydd’, ‘ymfudwyr drwy brofiad’, ‘gwladychwyr’ a ‘gweithwyr arbenigol traws-wladol’, bob un â chrynodiad daearyddol gwahanol yng nghefn gwlad Cymru, a phrofiadau gwahanol o gydadweithio â chymunedau lleol a gwahanol fwriadau ynghylch aros yn y Deyrnas Unedig neu fynd adref.

Dulliau: Roedd yr ymchwil yn cynnwys cyfweliadau â rhanddeiliaid allweddol a dadansoddi data ynghylch Yswiriant Gwladol a chofrestru ar y Cynllun Cofrestr Gweithwyr, ar y cyd â chyfweliadau strwythuredig â 100 o weithwyr mudol mewn pedair ardal astudio.

Graddfa Ofodol: Ardaloedd Betws-y-coed / Llanrwst, Sir Gaerfyrddin / Ceredigion, Hwlffordd / Aberdaugleddau a’r Trallwng.

Themâu: Yr Economi Gwledig a Chyflogaeth; Y Gymdeithas a’r Gymuned; Tai a Gwasanaethau.


2. Ardaloedd Gwledig Anghysbell

Trosolwg: Yn sgil cyhoeddi’r ddogfen bolisi ‘Cymru’n Un’ yn 2008, a ddywedodd fod angen mynd i’r afael â materion penodol a oedd yn effeithio ar ardaloedd gwledig anghysbell yng Nghymru, comisiynodd Llywodraeth Cymru yr Arsyllfa i wneud ymchwil helaeth ar y materion hyn. Nod yr ymchwil oedd archwilio profiad trigolion o fywyd ym 'mherfeddion cefn gwlad' Cymru, gan roi pwyslais ar y strategaethau a'r mecanweithiau a fabwysiadwyd mewn perthynas â'r gwasanaethau a gynigid. Dangosodd y canfyddiadau fod y trigolion at ei gilydd yn fodlon ar fyw yn yr ardaloedd hyn. Er hynny, fe fynegwyd rhai pryderon. Roedd y rhain yn cynnwys costau byw uchel; gostyngiad mewn gwasanaethau gwledig; rhagolygon cyflogaeth cyfyngedig; diffyg ffocws gwledig Llywodraeth Cymru; cynaliadwyedd cymunedau gwledig a’r Gymraeg; gwasanaethau cludiant cyhoeddus gwael; a gwasanaethau band eang annigonol. Roedd safon y ddarpariaeth band eang yn peri pryder i ddarparwyr gwasanaethau hefyd. Cododd darparwyr gwasanaethau ystod o faterion eraill, gan ddadlau bod cyllidebau gwledig yn rhy fach; y dylai’r ddarpariaeth gwasanaethau gael ei harwain gan ‘anghenion’ yn hytrach na chan fuddiannau cyflenwyr a chynhyrchwyr; a bod angen gwell cymorth i SMEs, a oedd yn cael eu gweld fel sylfaen yr economi gwledig; ac nad oedd polisïau Llywodraeth Cymru a’r llywodraeth genedlaethol fel petaen nhw’n ystyried cefn gwlad.

Dulliau: Cafodd pedwar dull ymchwilio eu defnyddio, sef arolwg teuluoedd; cyfweliadau manwl â thrigolion yr ardaloedd; grwpiau ffocws gyda phobl ifanc; ac arolwg o ddarparwyr gwasanaeth a oedd â diddordeb yn yr ardaloedd hyn.

Graddfa Ofodol: I roi safbwyntiau rhanbarthol gwahanol, pennwyd pedair ardal ymchwil yn fras: Penrhyn Llŷn yng Ngwynedd, gogledd Powys, de Powys a gogledd Sir Benfro. I ddechrau, cafodd ardaloedd ym ‘mherfeddion cefn gwlad’ ei diffinio fel cymunedau â llai na 1,000 o gartrefi, a gymerai o leiaf 30 munud mewn car i'w cyrraedd o le â phoblogaeth o fwy na 10,000.

Themâu: Ardaloedd Gwledig Anghysbell, Cymuned, Diwylliant, Gwasanaethau, Cludiant a symud o gwmpas, Cymunedau cynaliadwy.   


3. Effeithiau’r Dirwasgiad Cyfredol yng Nghymru Wledig

Trosolwg: Cafodd Arsyllfa Wledig Cymru ei chomisiynu gan Uned Polisi Gwledig Llywodraeth Cynulliad Cymru ym mis Ebrill 2009 i wneud ymchwil ar effeithiau’r dirwasgiad cyfredol yn y Gymru wledig. Nod yr ymchwil oedd edrych ar ganlyniadau’r dirwasgiad ar gyfer yr economi, cyflogaeth, tai, lles a’r gymdeithas mewn ardaloedd gwledig, gyda golwg ar ystyried ei effeithiau gofodol yng Nghymru. Roedd hyn yn golygu cymharu’r sefyllfa wledig â sefyllfa ardaloedd eraill, yn ogystal ag effeithiau daearyddol yn y Gymru wledig. Dangosodd y canfyddiadau lefelau cynyddol o ddiweithdra, afreidedd, ansolfedd busnesau, adfeddiannu eiddo, ac ymholiadau i gael cyngor ar ddyledion yng nghefn gwlad Cymru, yn ogystal ag anwastadrwydd daearyddol mewn ardaloedd gwledig. Hefyd, defnyddiwyd deunyddiau o’r cyfweliadau â’r rhanddeiliaid i danlinellu’r gwahaniaethau yn effeithiau amserol, sectoraidd a chymdeithasol y dirwasgiad ar gefn gwald Cymru, yn enwedig felly rôl y sector cyhoeddus wrth ysgafnhau a gohirio effeithiau’r dirwasgiad yng nghefn gwlad.                             

Dulliau: Cyfweliadau â rhyw 40 o randdeiliaid, gan gynnwys sefydliadau busnes, undeb llafur, asiantaethau tai, a grwpiau iechyd a lles, ynghyd â dadansoddiadau gofodol o ystod eang o ddata am yr economi, tai,  y gymdeithas lles.      

Graddfa Ofodol: Cymru gyfan     

Themâu: Dirwasgiad, Toriadau’r Sector Cyhoeddus, Dweithdra, Gweithgarwch Eonomaidd, Digartrefedd, Lles a Chyngor, Economi Cefn Gwlad, Amaethyddiaeth, Twristiaeth.       


 4. Newidiadau mewn Busnesau Gwledig 2004-2007, Awst 2008

Trosolwg: Edrychodd y prosiect hwn ar newidiadau yng nghyflwr busnesau heblaw ffermydd yng nghefn gwlad Cymru yn y cyfnod Awst 2004 i Awst 2007. Fel rhan o’i rhaglen o ymchwil, cynhaliodd Arsyllfa Wledig Cymru arolwg o 1008 o fusnesau yng nghefn gwlad Cymru yn ystod 2004. Cafwyd arolwg tebyg ymhlith 1034 o fusnesau yn 2007. Mae’r adroddiad hwn yn gwneud cymariaethau rhwng canfyddiadau’r ddau Arolwg o Fusnesau Gwledig.                  

Dulliau: Gwaith desg       

Graddfa Ofodol: Cymru wledig i gyd                 

Themâu: Proffiliau perchnogion a gweithwyr, recriwtio, perfformiad economaidd, arferion busnes.            


 5. Adroddiad Cymhariaeth Cartrefi 2004-2007, Awst 2008                                                      

Trosolwg: Edrychodd y prosiect hwn ar newidiadau, ar lefel y cartref, i bobl yn byw ac yn gweithio yng nghefn gwlad Cymru yn y cyfnod Mawrth 2004 i Awst 2007. Fel rhan o’i rhaglen o ymchwil, cynhaliodd Arsyllfa Wledig Cymru arolwg o 4,023 o gartrefi yng nghefn gwlad Cymru yn ystod 2004. Gofynnwyd i bawb a ymatebodd yn arolwg 2004 a ellid cysylltu â nhw eto ac o 4,023, cytunodd 3,406. O’r rhain, cynhaliwyd cyfweliadau â 1,438 a dyna’r sampl hydredol a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad. Gan ddefnyddio cwestiynau a gafwyd yn y ddau arolwg yn 2004 a 2007, mae’r adroddiad yn cyflwyno cymhariaeth o’r holl ddata a gynhyrchwyd yn ystod dau gyfod yr ymchwil, a’r data hydredol, sy’n cymharu’r newidiadau ymhlith yr un bobl dros y cyfnod amser.      

Dulliau: Astudiaeth pen desg   

Graddfa Ofodol: Cymru wledig gyfan       

Themâu: Poblogaeth, Cymuned, Cyflogaeth, Newid.


6. Arolwg o Aelwydydd Fferm yng Nghymru 2010

Trosolwg: Craidd y prosiect hwn oedd arolwg o 1,009 o deuluoedd ffermio yng Nghymru, rhwng 29 Ionawr 2010 a 3 Mawrth 2010. Nodau’r prosiect yn gryno oedd nodi ffrydiau incwm teuluoedd ffermio; asesu i ba raddau yr oedden nhw wedi arallgyfeirio ac yn gwneud mwy nag un swydd; asesu gwytnwch teuluoedd o ran diwygio’r PAC; edrych ar ymatebion posibl i ddiwygiadau’r PAC; ac ystyried agweddau at ymddygiad. Yn eangach, rhoddodd y prosiect dystiolaeth i ganiatáu i Lywodraeth Cymru fonitro effaith ei pholisïau a bwydo’r dasg o roi’r Cynllun Datblygu Gwledig [RDP] ar  waith.                                                                                                                       

Dulliau: Arolwg ffôn                                                                                       

Graddfa Ofodol: Cymru gyfan                 

Themâu: Ffrydiau Incwm Teuluoedd, Arallgyfeirio, Aml-swyddogaethau, Entrepreneuriaeth, Gwytnwch o ran y PAC.


7. Arolwg Busnesau Gwledig 2010

Arolwg Busnesau 2010 oedd y trydydd mewn cyfres o arolygon sydd wedi’u cynnal bob tair blynedd, yn sgil yr arolygon yn 2004 a 2007. Cafodd ei gynllunio fel rhan annatod o’r rhaglen waith, a’r rhesymeg y tu cefn iddo oedd y byddai’r arolwg yn cydategu gwaith a oedd wedi’i gwblhau gan yr Arsyllfa ac yn adeiladu arno; yn defnyddio arolygon 2004 a 2007 i gynnig data hydredol; ac yn cynnig ffynhonnell ddata at waith yr Arsyllfa yn y dyfodol. Nodau bras yr arolwg oedd edrych ar gyflwr gweithgareddau busnesau gwledig (heblaw ffermydd) yng Nghymru. Yn fwy penodol, roedd yr arolwg yn anelu at ystyried, mesur a chynnig data ansoddol ynghylch agweddau perchnogion busnesau gwledig yng Nghymru ynglŷn ag ystod o faterion ym myd busnes, yr economi a’r amgylchedd. Roedd yr arolwg yn anelu hefyd at ganfod pa newidiadau a oedd wedi effeithio ar fusnesau yn y Gymru wledig.


8. Arolwg Gwasanaethau Gwledig 2010

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi trosolwg ar ganlyniadau arolwg o wasanaethau gwledig yng Nghymru, a gynhaliwyd yn 2010.  Arolwg 2010 yw’r trydydd mewn cyfres sydd wedi’u cynnal bob tair blynedd, yn sgil yr arolygon o wasanaethau yn 2004 a 2007.


9. Arolwg Cartrefi Gwledig 2010

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau arolwg o gartrefi yng nghefn gwlad Cymru gan ymchwilwyr yr Arsyllfa yn 2010-11. Dyma’r trydydd mewn cyfres o arolygon sydd wedi’u cynnal gan yr Arsyllfa bob tair blynedd, yn sgil yr arolygon blaenorol yn 2004 a 2007. Mae’r canlyniadau’n rhoi gwybodaeth ddiwygiedig a data hydredol ychwanegol sy’n caniatáu rhagor o waith cymharu manwl. Mae themâu allweddol yr adroddiad yn cynnwys: lleoliad a demograffeg; y cyd-destun cymdeithasol a chymunedol lleol; llesiant a lles; darparu gwasanaethau gwledig, diweithdra gwledig a’r economi; a’r amgylchedd.


10. Arolwg Busnesau Gwledig 2008

11. Arolwg Gwasanaethau 2008

12.Arolwg Cartrefi Gwledig 2008


Cafodd naw o brosiectau eu cwblhau yn ystod Ail Gam y Rhaglen Waith, a redodd rhwng Hydref 2004 a 2006.


1. Marchnadoedd Llafur Cefn Gwlad: archwilio’r anghydweddu

Trosolwg: Defnyddiodd y prosiect ganfyddiadau o’r arolygon cenedlaethol i ymchwilio i’r rôl a oedd yn cael ei chwarae gan y farchnad lafur mewn detholiad o ardaloedd gwledig Cymru, gan ddarparu cronfa newydd o dystiolaeth am gymhlethdodau’r marchnadoedd llafur gwledig yng Nghymru.                                      

Dulliau: Detholiad o safleoedd ymchwilio allweddol gan gynnwys cyfweld, dadansoddi polisïau a gwerthuso’r cynlluniau presennol.

Graddfa Ofodol: Clystyrau o gymunedau wedi’u dethol yn arbennig ledled Cymru.

Themâu: Economi a Chyflogaeth; Allgáu Cymdeithasol a Chynhwysiant Cymdeithasol.


2. Tlodi ac Allgáu Cymdeithasol yng Nghefn Gwlad Cymru

Trosolwg: Gan ddefnyddio canfyddiadau allweddol o’r arolwg cenedlaethol o gartrefi a data o’r GIS, rhoddodd y prosiect hwn archwiliad manwl o natur a phrofiadau tlodi materol ac agweddau ehangach ar allgáu cymdeithasol yng nghefn gwlad Cymru. Bu hefyd yn canolbwyntio ar sut mae’r asiantaethau sy’n gweithio yng nghefn gwlad Cymru wedi bod yn datblygu polisïau gwrth-dlodi a pholisïau ar gynhwysiant cymdeithasol er mwyn ymdrin ag anfantais wledig. Yn y prosiect hwn, cafodd pwyslais penodol ei roi ar sut mae tlodi ac allgáu cymdeithasol yn cael eu profi gan grwpiau difreintiedig gwahanol (megis y rhai sydd mewn gwaith, y di-waith, yr oedrannus, pobl ifanc, pobl anabl) mewn ardaloedd gwahanol yng Nghymru.

Dulliau: Dadansoddi’r data ystadegol o’r arolwg cartrefi a’r GIS, arolwg o ystod eang o asiantaethau lles, grwpiau ffocws a chyfweliadau â grwpiau tlawd a grwpiau sydd wedi’u hallgáu yn gymdeithasol.

Graddfa Ofodol: Y Gymru Wledig ac ardaloedd dethol / mentrau polisi.

Themâu: Yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Chynllunio Defnyddio Tir; Allgáu a Chynhwysiant Cymdeithasol; Tai a Gwasanaethau; Y Gymdeithas a’r Gymuned.


3: Digartrefedd yng Nghefn Gwlad Cymru

Trosolwg: Bu’r prosiect hwn yn edrych ar y newid yn natur a graddfa digartrefedd yng nghefn gwlad Cymru, yn edrych ar ymatebion presennol yr asiantaethau i ddigartrefedd gwledig, yn nodi’r rhwystrau allweddol sy’n atal gwasanaethau i bobl ddigartrefedd yng nghefn gwlad, ac yn nodi arferion da wrth fynd i’r afael â digartrefedd gwledig.

Dulliau: Dadansoddi ystadegau digartrefedd; cyfweliadau â rhanddeiliaid cenedlaethol, astudiaethau achos lleol.

Graddfa Ofodol: Y Gymru Wledig a detholiad o awdurdodau unedol / mentrau polisi.

Themâu: Allgáu a Chynhwysiant Cymdeithasol; Tai a Gwasanaethau; Y Gymdeithas a’r Gymuned.


4. Yr Angen am Dai yng Nghefn Gwlad Cymru: tuag at ddatrysiadau cynaliadwy

Trosolwg: Rhoddodd y prosiect hwn y dystiolaeth gynhwysfawr gyntaf ar natur a graddfa’r angen am gartrefi, a mentrau polisi yn anelu at ymdrin â’r angen hwnnw yng nghefn gwlad Cymru.

Dulliau: Cafodd y prosiect ei seilio ar gasglu gwybodaeth ystadegol am raddfa a natur yr agen am gartrefi a digartrefedd, arolwg post o’r asiantaethau perthnasol, a chyfweliadau wedyn â detholiad o’r asiantaethau a ymatebodd.

Graddfa Ofodol: Y Gymru Wledig a detholiad o awdurdodau unedol / mentrau polisi.

Themâu: Yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Chynllunio Defnyddio Tir; Allgáu a Chynhwysiant Cymdeithasol; Tai a Gwasanaethau; Y Gymdeithas a’r Gymuned.


5. Trefi Bach a Threfi Marchnad yn  y  Gymru  Wledig a'u Cefnwledydd

Trosolwg: Edrychodd y prosiect hwn ar y cydadwaith cymdeithasol ac economaidd rhwng trefi marchnad a’r cymunedau cyfagos, drwy bortreadau o bum tref mewn ardaloedd gwahanol yng nghefn gwlad Cymru. Roedd ymchwilio i’r cydadwaith economaidd yn golygu mapio ‘ôl troed economaidd’ y trefi drwy astudiaethau ar gyflogaeth, gwaith caffael busnesau a gwerthiant  busnes.                              

Dulliau: Defnyddiodd y prosiect ddata o’r gronfa ddata GIS, yr arolwg teuluoedd a’r arolwg busnesau. Hefyd, roedd pob astudiaeth achos yn cynnwys arolwg ategol ymhlith cyflogwyr lleol; arolwg o glybiau, mudiadau a chymdeithasau lleol; cyfweliadau â chynrychiolwyr busnes, swyddogion cymdeithasau a threfnwyr digwyddiadau (amcangyfrif o 10 am bob astudiaeth achos); a dadansoddi adroddiadau yn y papurau newydd lleol.

Graddfa Ofodol: Trefi marchnad â phoblogaeth rhwng 2,500 a 10,000.

Themâu: Economi a Chyflogaeth; Tai a Gwasanaethau; Y Gymdeithas a’r Gymuned.


6. Arwyddocâd Cyflogaeth yn y Sector Cyhoeddus yng Nghefn Gwlad Cymru

Trosolwg: Edrychodd y prosiect hwn ar y newid yn arwyddocâd y sector cyhoeddus yng nghefn gwlad Cymru, o safbwynt economaidd a chymdeithasol.

Dulliau: Hyd at 30 o gyfweliadau ffôn, ynghyd ag ymchwil ddogfennol wrth y ddesg ac ar y we. Nifer cyfyngedig o ymweliadau a chyfweliadau yn ardaloedd yr astudiaethau achos.

Graddfa Ofodol: Roedd y data sylfaenol yn gynhwysfawr ledled y Gymru wledig, gan ddewis ardaloedd penodol ar gyfer astudiaethau achos.

Themâu: Economi a Chyflogaeth; Tai a Gwasanaethau; Y Gymdeithas a’r Gymuned.


 7. Asesu Eco-economi’r Gymru Wledig

Trosolwg: Nod y prosiect hwn oedd archwilio, gan ddefnyddio amryw o dechnegau, sut mae gwella’r synergeddau posibl rhwng adnoddau amgylcheddol a gweithgareddau economaidd; er enghraifft, rhwng twristiaeth, amaethyddiaeth / tirluniau o safon a mynediad a chyfleusterau amgylcheddol.

Dulliau: Astudiaethau achos yn deillio o arolygon cenedlaethol, yn ychwanegol at archwilio arferion da a’r potensial i’w lledaenu i feysydd ehangach. Cyfweliadau â’r bobl allweddol ymysg gweithredwyr a rhwydweithiau’r sector preifat.

Graddfa Ofodol: Samplau wedi’u tynnu o’r amrediad o gyd-destunau gwledig gwahanol yng Nghymru.

Themâu: Economi a Chyflogaeth; Yr Amgylchedd.


8. Ymdopi â Mynediad i Wasanaethau

Trosolwg: Un o nodau allweddol y gwaith hwn oedd sicrhau gwell dealltwriaeth o’r tactegau ar gyfer ymdopi sy’n cael eu mabwysiadu gan unigolion a grwpiau mewn cymunedau gwledig i ddelio â cholli gwasanaethau gwahanol.

Dulliau: Defnyddiodd yr ymchwil setiau data ar lefel pwyntiau yn y GIS, sy’n cynnwys data ar y sefyllfa sydd ohoni yn ogystal â data hanesyddol ar leoliadau’r gwasanaethau allweddol a oedd gan dîm y prosiect mewn cronfa ddata GIS (yn dyddio yn ôl i 1995). Defnyddiodd ddulliau ansoddol hefyd i edrych ar strategaethau ymdopi grwpiau gwahanol yn ardaloedd yr astudiaethau achos penodol.

Themâu: Allgáu a Chynhwysiant Cymdeithasol; Tai a Gwasanaethau; Y Gymdeithas a’r Gymuned.


9. Newid yn y Boblogaeth yng Nghefn Gwlad Cymru: Effeithiau Cymdeithasol a Diwylliannol

Trosolwg: Edrychodd y prosiect ar newidiadau ym mhoblogaeth cefn gwlad Cymru, gan ystyried yn bennaf effeithiau cymdeithasol a diwylliannol newid yn y boblogaeth ar fywyd y gymuned, gan anelu at ddangos sut mae cyfansoddiad y boblogaeth yn pennu lefelau a mathau’r cyfalaf cymdeithasol sydd gan y Gymru wledig.

Dulliau: Defnyddiodd y prosiect ddata a gynhyrchwyd gan yr arolwg teuluoedd a’r gronfa ddata GIS. Defnyddiodd hefyd astudiaethau achos manwl o gymunedau sy’n dod o dan wahanol fathau o bwysau ar y boblogaeth (e.e. stasis neu ddiboblogi yn erbyn mewnfudo). Yn y cymunedau hyn, defnyddiwyd sylwadau’r cyfranogwyr a chyfweliadau lled-strwythuredig i ystyried effaith newid yn y boblogaeth ar weithgareddau cymunedol, gweithgareddau gwleidyddol a gweithgareddau diwylliannol.

Graddfa Ofodol: Newidiadau yn y lefel macro ym mhoblogaeth cefn gwlad Cymru ar y cyd ag astudiaethau manwl ar gymunedau gwledig yng Nghymru.

Themâu: Yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Chynllunio Defnyddio Tir; Allgáu a Chynhwysiant Cymdeithasol; Tai a Gwasanaethau; Y Gymdeithas a’r Gymuned.


Yn ystod Cam Un y Rhaglen Waith, a redodd rhwng Ionawr a Medi 2004, cafodd arolygon o bwys eu cwblhau ar fwyd a gwaith yng nghefn gwlad, gwasanaethau gwledig, busnesau gwledig a pholisi cefn gwlad. Ceir manylion ynglŷn â'r prosiectau isod.

1. Arolwg Bywyd a Gwaith Gwledig 2004

Trosolwg: Roedd y cyntaf a’r mwyaf o’r prosiectau ymchwil yn arolwg mawr o sampl gynrychioliadol o 4,000 o gartrefi yng Nghymru wledig. Cafodd data o’r arolwg ei gyflwyno a’i ddadansoddi ar raddfeydd gofodol gwahanol (er enghraifft, yn ôl y math o annedd ac yn ôl pa mor anghysbell / hygyrch oedden nhw) a chafodd y data ei fewnbynnu i GIS yr Arsyllfa. Cafodd canfyddiadau allweddol o’r arolwg eu defnyddio i fwydo sawl prosiect ymchwil yn yr ail gam.

Dulliau: Arolwg ffôn o sampl gynrychioliadol o 4,000 o gartrefi

Graddfa Ofodol: Cymru Wledig

Themâu: Economi a Chyflogaeth; Yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Chynllunio Defnydd Tir; Allgáu Cymdeithasol a Chynhwysiant Cymdeithasol; Tai a Gwasanaethau; Cymdeithas a Chymuned.


2. Arolwg Gwasanaethau Gwledig 2005

Trosolwg: Rhoddodd yr arolwg hwn wybodaeth gyd-destunol bwysig ar gyfer gwaith ymchwil arall gan yr Arsyllfa a hysbysu gwneuthurwyr polisïau yng Nghymru am ‘gyflwr gwasanaethau gwledig’ yn y Gymru wledig. Cafodd data o’r arolwg ei ychwanegu at gronfa ddata’r GIS ar lefel y Gymuned gan ganiatáu iddi gael ei chyfuno â setiau data eraill ar y raddfa ofodol honno.

Dulliau: Arolwg post o’r holl gynghorau cymuned gwledig

Graddfa Ofodol: Cymru Wledig

Themâu: Allgáu Cymdeithasol a Chynhwysiant Cymdeithasol; Tai a Gwasanaethau; Cymdeithas a Chymuned.


3. Arolwg Busnesau Gwledig 2004

Trosolwg: Un flaenoriaeth i’r Arsyllfa o dan ei rhaglen waith ‘Economi a chyflogaeth wledig’ oedd cynnal arolwg helaeth o fusnesau anamaethyddol yng nghefn gwlad Cymru. Rhoddodd yr arolwg sylfaen helaeth (n 1000) o ffyrmiau yn y Gymru wledig a oedd yn cynnig data dibynadwy a chymaradwy ar gyflwr busnesau, eu gweithgareddau, eu potensial i ddatblygu, y rhwystrau a’r math o arferion entrepreneuraidd.

Dulliau: Arolwg post cynhwysfawr o fusnesau. Dadansoddi meintiol a chydblethu â’r cronfeydd data presennol.

Graddfa Ofodol: Cymru Wledig

Themâu: Economi a Chyflogaeth.


4. Arolwg o Bolisïau, Rhaglenni ac Adnoddau ar gyfer Cymru Wledig, Medi 2004

Trosolwg: Edrychodd y prosiect hwn ar bolisïau, rhaglenni ac adnoddau cyfredol a oedd yn cynnal y Gymru wledig. Bwydodd yr wybodaeth a gasglwyd drosolwg ar yr heriau a’r cyfleoedd cyfredol a’r rhai a oedd yn dod i’r amlwg ar gyfer cynaliadwyedd a newid yn y Gymru wledig.

Dulliau: Cafodd data ei gasglu o nifer o ffynonellau gan gynnwys: Llywodraeth Cynulliad Cymru, yr Undeb Ewropeaidd ac adrannau o lywodraeth Whitehall, ac asiantaethau statudol a sefydliadau eraill sy’n cefnogi’r Gymru wledig. Roedd y prosiect yn cynnwys ymchwil ddogfennol mewn llyfrgelloedd ac ymchwil ddogfennol ar y we ac arolwg holiadur post o Awdurdodau Unedol, Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol, Cyrff Cyhoeddus a oedd yn cael eu noddi gan y Cynulliad ac ystod o Sefydliadau Anstatudol.

Graddfa Ofodol: Cymru Wledig

Themâu: Economi a Chyflogaeth; Yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Chynllunio Defnydd Tir; Allgáu Cymdeithasol a Chynhwysiant Cymdeithasol; Tai a Gwasanaethau; Cymdeithas a Chymuned.


Astudiaeth Gwmpasu ar Weithwyr Mudol o Ddwyrain a Chanol Ewrop yng Nghymru Wledig

Astudiaeth Gwmpasu ar Rywedd a'r Gymru Wledig

Trosolwg o Bolisi ac Adnoddau sy'n Effeithio ar Gymru Wledig

Cymraeg