Cwcis a Phreifatrwydd

CWCIS

Er mwyn sicrhau bod ein gwefan yn haws i’w defnyddio ac er mwyn gwella’n gwasanaeth, rydyn ni weithiau’n gosod darnau bach o wybodaeth ar eich cyfrifiadur chi. Yr enw ar y rhain yw 'cwcis’ ac maen nhw’n cael eu defnyddio gan y rhan fwyaf o wefannau o bwys.

Mae cwcis yn ddefnyddiol i chi gan eu bod yn cofio gosodiadau fel na does rhaid i chithau eu newid bob tro y byddwch yn llwytho tudalen. Rydyn ni hefyd yn eu defnyddio i fesur faint y byddwch yn defnyddio’r wefan er mwyn inni barhau i’w gwella. Fydd ein cwcis ddim yn cael eu defnyddio i’ch adnabod chi’n bersonol, a gallwch reoli’r ffeiliau hyn neu eu dileu os dewiswch chi.

I gael rhagor o wybodaeth am gwcis a sut i’w rheoli, ewch i AboutCookies.org.

Sut rydyn ni’n defnyddio cwcis

Bydd rhestr lawn o’r cwcis sy’n cael eu gosod gan y wefan  hon a chan wasanaethau trydydd parti yr ydyn ni’n eu defnyddio yn cael ei chyhoeddi yma cyn hir. Os oes gennych ymholiadau am y cwcis hyn, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio’r tudalen Cysylltwch â Ni.

Mesur faint o ddefnyddio sydd ar y wefan (Google Analytics)

Rydyn ni’n defnyddio Google Analytics i gasglu gwybodaeth am sut mae pobl yn defnyddio’r wefan. Rydyn ni’n gwneud hyn er mwyn sicrhau ein bod yn ateb anghenion y defnyddwyr ac er mwyn deall sut y gallwn ni wella’r wefan. Mae Google Analytics yn storio gwybodaeth am y tudalennau rydych chi’n edrych arnyn nhw, pa mor hir y byddwch chi ar y wefan, sut y daethoch chi yma ac ar beth y byddwch yn clicio. Dydyn ni ddim yn caglu nac yn storio gwybodaeth bersonol (er enghraifft eich enw neu’ch cyfeiriad) ac felly does dim modd i’r wybodaeth yma gael ei defnyddio i’ch adnabod chi. Dydyn ni ddim yn caniatáu i Google rannu’n data dadansoddi. I gael rhagor o wybodaeth am y cwcis sy’n cael eu gosod gan Google Analytics, gweler gwefan Google Code.

Gwasanaethau Rhwydweithio Cymdeithasol Trydydd Partïon

Os byddwch yn dewis defnyddio gwasanaethau rhwydweithio cymdeithasol ar ein gwefan ni, bydd cwcis gan drydydd partïon fel Facebook, Google a Twitter yn cael eu harbed ar eich cyfrifiadur. Mae’r rhain yn cael eu defnyddio er mwyn darparu mwy o swyddogaethau, megis caniatáu ichi ‘Hoffi’ neu rannu erthygl, blogbost neu ddigwyddiadau ar ein gwefan. Byddwch yn dewis defnyddio’r gwasanaethau hyn drwy glicio ar ddolen. Os na fyddwch yn dewis gwneud hyn, fydd y cwcis hyn ddim yn cael eu gosod ar eich cyfrifiadur.

Facebook

Polisi Preifatrwydd Facebook: www.facebook.com/policy.php Ategion Cymdeithasol Facebook: developers.facebook.com/docs/plugins

Google+

Gall y cod sy’n cael ei ddarparu gan Google ar gyfer Google+ osod cwcis. I gael rhagor o wybodaeth, gweler Polisi Preifatrwydd Google: www.google.com/policies/privacy

Twitter

Gall y cod sy’n cael ei ddarparu gan Twitter osod cwcis. I gael rhagor o wybodaeth, gweler Polisi Preifatrwydd Twitter: http://twitter.com/privacy

 

Cymraeg