|
Mae prif raglen waith Arsyllfa Wledig Cymru yn canolbwyntio ar gasglu, dadansoddi
a chyflwyno data gwledig, ac ymgymryd â gwaith ymchwil sylfaenol.
Mae elfennau allweddol y rhaglen waith wedi’u nodi isod:
Casglu, dadansoddi a chyflwyno data gwledig
Mae casglu a dadansoddi data rhagarweiniol wedi cynnwys nifer
o gamau allweddol.
1. Sefydlu catalog data o ffynonellau data presennol;
2. Penderfynu ar raddfa ymchwiliadau gofodol ar gyfer dadansoddi’r
data gwledig;
3. Dechrau proses o gysylltu â chyfranogwyr allweddol ym maes
polisi gwledig ledled Cymru;
4. Cynnal dadansoddiad cychwynnol o ystadegau allweddol ar bum prif
thema’r Arsyllfa Wledig – sydd wedi’u seilio’n
bennaf ar ddata newydd Cyfrifiad 2001 Cymru.
1. Mae penderfynu ar raddfa ymchwiliadau gofodol yn broses barhaus.
O fewn y GIS rydym bellach wedi sefydlu nifer o gategorïau gofodol
y gellid eu defnyddio yn ystod yr astudiaeth (e.e. wardiau 2001, wardiau
1991, sectorau cod post, Ardaloedd Teithio i’r Gwaith (TTWA))
gan ddefnyddio diffiniadau gwledig gwahanol, gan gynnwys diffiniadau
ardal awdurdod unedol gwledig naw a 12 Llywodraeth Cynulliad Cymru a
diffiniad gwledig newydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer Cymru
a Lloegr.
2. Cynhaliwyd trafodaethau parhaus gyda chyfranogwyr allweddol ym maes
polisi gwledig, gan gynnwys cyfarwyddiaeth ystadegol Llywodraeth Cynulliad
Cymru, Uned Data Llywodraeth Leol, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a’r
Sefydliad Iechyd Gwledig. Caiff y trafodaethau hyn eu hymestyn i asiantaethau
eraill wrth i ragor o setiau data gael eu casglu ar gyfer y GIS ac wrth
i ystadegau allweddol ar gyfer y pum thema gael eu datblygu.
3. Mae ystadegau ac amrywiaethau allweddol o Gyfrifiad 2001 eisoes wedi
cael eu dadansoddi a’u mapio. Mae nifer fawr o fapiau lefel ward
wedi cael eu cynhyrchu erbyn hyn yn seiliedig ar bum prif thema’r
rhaglen. Mae enghreifftiau o’r mapiau hyn wedi’u cynnwys
yn adran gyhoeddiadau’r wefan hon.
4. Mae’r tîm wedi cychwyn yn dda wrth ddadansoddi a mapio
rhai ystadegau ac amrywiaethau allweddol o Gyfrifiad 2001 a setiau data
eraill. Mae nifer fawr o fapiau lefel ward bellach wedi cael eu cynhyrchu
ar bum prif thema’r rhaglen. Mae enghreifftiau o’r mapiau
hyn wedi’u cynnwys yn adran Data Gwledig y safle hwn.
Ymchwil
Mae rhaglen ymchwil yr Arsyllfa Wledig yn cynnwys dau brif gam gwaith.
Mae’r cam cyntaf yn canolbwyntio ar y lefel genedlaethol ac yn
cynnwys arolygon pwysig o fywyd a gwaith yng Nghymru wledig, gwasanaethau
gwledig, busnesau gwledig a pholisi gwledig. Dechreuodd y cam hwn o’r
gwaith ym mis Ionawr a cwblhawyd erbyn hydref 2004. Mae’r ail
gam yn defnyddio canfyddiadau allweddol o’r arolygon hyn er mwyn
canolbwyntio ar themâu mwy penodol ac ar ardaloedd penodol o Gymru
wledig. Dechreuwyd cam 2 ym mis Medi 2004 a disgwylir iddo bara 18 mis.
Mae rhagor o fanylion y prosiectau unigol sy’n gysylltiedig â
phob un o’r camau hyn wedi’u nodi yn yr adran ganlynol.
Cam un
1. Arolwg o Fywyd a Gwaith yng Nghymru Wledig
Trosolwg: Mae’r cyntaf a’r mwyaf o’r prosiectau ymchwil
yn arolwg mawr o sampl gynrychioliadol o 4,000 o gartrefi yng Nghymru
wledig. Mae gan yr arolwg dri amcan: yn gyntaf, darparu asesiad eang
o natur bywyd a gwaith yng Nghymru wledig; yn ail, cynhyrchu data meincnodi
ar themâu cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol yng Nghymru
wledig nad ydynt ar gael ar hyn o bryd o ffynonellau eraill; ac yn drydydd,
cyflenwi gwybodaeth am y themâu hyn y gellir ei dadansoddi yn
unol â mathau o gartrefi, grwpiau cymdeithasol a chategorïau
gofodol gwahanol. Mae’r arolwg yn cynnwys cyfweliadau ffôn
sy’n para 30 munud ac mae’n darparu gwybodaeth am bob un
o bum thema’r rhaglen (economi, amgylchedd, lles, gwasanaethau
a chymdeithas wledig). Caiff data o’r arolwg ei gyflwyno a’i
ddadansoddi ar raddfeydd gofodol gwahanol (er enghraifft, yn ôl
y math o annedd ac yn ôl pa mor anghysbell / hygyrch ydyw) a chaiff
data ei fewnbynnu i GIS yr Arsyllfa. Caiff canfyddiadau allweddol o’r
arolwg eu defnyddio i greu nifer o brosiectau ymchwil yr ail gam.
Dulliau: Arolwg ffôn o sampl gynrychioliadol o 4,000 o gartrefi
Graddfa Ofodol: Cymru Wledig
Themâu:1, Economi a Chyflogaeth; 2, Yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd
a Chynllunio Defnydd Tir; 3, Allgáu Cymdeithasol a Chynhwysiant
Cymdeithasol; 4, Tai a Gwasanaethau; 5, Cymdeithas a Chymuned.
Statws: Cwblhawyd
2. Arolwg o Wasanaethau Gwledig
Trosolwg: Ers canol yr 1990au, mae’r Comisiwn Datblygu Gwledig
blaenorol ac yn ddiweddar, y Countryside Agency wedi cynnal arolygon
blynyddol o wasanaethau pentrefi mewn ardaloedd gwledig yn Lloegr. Mae’r
rhain yn darparu gwybodaeth gyd-destunol bwysig ar fywiogrwydd ardaloedd
gwledig ac maent yn bwydo i mewn i bolisïau a strategaethau ar
gyfer Lloegr wledig a baratowyd gan y Countryside Agency a llywodraeth
ganolog. Yng Nghymru, nid oes cronfa ddata o’r fath yn bodoli,
ar wahân i arolwg a gynhaliwyd fel rhan o brosiect ymchwil a ariannwyd
gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) i wasanaethau yng Nghymru
a oedd yn debyg iawn i arolygon y Countryside Agency a’r data
a gasglwyd ar lefel y Cyngor Cymuned ar gyfer Cymru Wledig yn 1996 (Higgs
a White, 2000). Mae’r arolwg hwn yn cael ei ddiweddaru ar gyfer
Cynghorau Cymuned gwledig yng Nghymru i ddarparu gwybodaeth gyd-destunol
bwysig ar gyfer gwaith ymchwil arall a gynhaliwyd gan Arsyllfa Wledig
Cymru a hysbysu’r sawl sy’n llunio polisïau yng Nghymru
o ‘gyflwr gwasanaethau gwledig’ yng Nghymru wledig. Caiff
data o’r arolwg ei ychwanegu i gronfa ddata’r GIS ar y lefel
Gymunedol gan ei alluogi i gael ei gyfuno â setiau data eraill
ar y raddfa ofodol honno.
Dulliau: Arolwg post o’r holl gynghorau cymuned gwledig, cyfweliadau
dilynol gyda sampl ddethol o gynghorau ymatebol
Graddfa Ofodol: Cymru Wledig
Themâu: 3, Allgáu Cymdeithasol a Chynhwysiant Cymdeithasol;
4, Tai a Gwasanaethau; 5, Cymdeithas a Chymuned.
Statws: Cwblhawyd.
3. Arolwg o Fusnesau Gwledig
Trosolwg: Mae cynnal arolwg cynhwysfawr o fusnesau nad ydynt yn amaethyddol
yng Nghymru wledig yn flaenoriaeth i Arsyllfa Wledig Cymru o dan ei
rhaglen waith ‘Economi a chyflogaeth wledig’. Bydd hyn yn
gosod llinell sylfaen a meincnod ar gyfer rhagor o waith manwl, a fydd
yn edrych yn fanylach ar y prosesau, y rhwystrau a’r cyfleoedd
y mae’n rhaid i fusnesau o’r fath eu hwynebu. Mae’r
arolwg yn darparu llinell sylfaen helaeth (tua 1000) o gwmnïau
yng Nghymru wledig sy’n cynnig data dibynadwy y gellir ei gymharu
ar gyflwr busnesau, eu gweithgareddau, eu potensial o ran datblygu,
rhwystrau ac ar y math o arferion entrepreneuraidd.
Dulliau: Arolwg post cynhwysfawr o fusnesau. Dadansoddi meintiol a chydblethu
gyda chronfeydd data presennol.
Graddfa Ofodol: Cymru Wledig
Themâu: 1, Economi a Chyflogaeth.
Statws: Cwblhawyd.
4. Arolwg o Bolisïau, Rhaglenni ac Adnoddau ar gyfer Cymru Wledig
Trosolwg: Mae’r prosiect hwn yn archwilio polisïau, rhaglenni
ac adnoddau cyfredol sy’n cynnal Cymru wledig. Mae ganddo dri
amcan allweddol: lleoli polisi ac adnoddau ar gyfer Cymru wledig o fewn
eu cyd-destun ehangach; nodi lefelau, mathau a phatrymau o bolisi ac
adnoddau ar gyfer Cymru wledig ac archwilio’r dulliau cymorth
allweddol ar gyfer Cymru wledig. Mae’r wybodaeth a gasglwyd yn
bwrw golwg dros yr heriau a’r cyfleoedd cyfredol a’r rhai
sy’n dod i’r amlwg ar gyfer cynaliadwyedd a newid yng Nghymru
wledig. Cynhelir y gwaith mewn pedwar cam. Mae cam 1 yn nodi ac yn dogfennu
llifau arian a mentrau polisi allweddol. Mae cam 2 yn archwilio rôl
asiantaethau statudol wrth lunio a chyflwyno polisïau. Mae cam
3 yn archwilio mentrau a gweithgareddau cyrff anstatudol. Mae cam 4
yn nodi’r rôl a chwaraeir gan awdurdodau unedol a pharciau
cenedlaethol wrth annog, cynnal a chyflwyno mentrau lleol.
Dulliau: Caiff data ei gasglu gan nifer o ffynonellau gan gynnwys: Llywodraeth
Cynulliad Cymru, yr Undeb Ewropeaidd ac adrannau o lywodraeth Whitehall,
ac asiantaethau statudol a sefydliadau eraill sy’n cefnogi Cymru
wledig. Mae’r prosiect yn cynnwys ymchwil ddogfennol o lyfrgelloedd
ac ymchwil ddogfennol sy’n seiliedig ar y we ac arolwg holiadur
post o Awdurdodau Unedol, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol, Cyrff Cyhoeddus
a Noddir gan y Cynulliad ac ystod o Sefydliadau Anstatudol.
Graddfa Ofodol: Cymru Wledig
Themâu: 1, Economi a Chyflogaeth; 2, Yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd
a Chynllunio Defnydd Tir; 3, Allgáu Cymdeithasol a Chynhwysiant
Cymdeithasol; 4, Tai a Gwasanaethau; 5, Cymdeithas a Chymuned.
Statws: Cwblhawyd.
Prosiectau Cam Dau
Ymgymerir ag uchafswm o unarddeg prosiect o fewn ail gam y gwaith.
Ymgymerir â’r prosiectau hyn mewn tri chymal rhwng mis Gorffennaf
2004 a mis Mawrth 2006. Darperir gwybodaeth gryno am bob prosiect, er
y dylid cydnabod efallai y bydd manylion y prosiectau hyn yn newid wrth
i waith yr ail gam ddatblygu.
Cymal 1
1. Marchnadoedd Llafur Gwledig
Trosolwg: Darparu sail dystiolaeth newydd ar gymhlethdodau marchnadoedd
llafur gwledig yng Nghymru. Bydd y prosiect yn defnyddio canfyddiadau
o’r arolygon cenedlaethol i ymchwilio i’r rôl a chwaraeir
gan y farchnad lafur yn ardaloedd gwledig dethol Cymru. Rhoddir sylw
penodol i bobl sydd â mwy nag un swydd, a natur a’r cyfranogi
a geir ym marchnadoedd llafur anffurfiol.
Dulliau: Detholiad o safleoedd ymchwilio allweddol sy’n cynnwys
cyfweld, dadansoddi polisïau a gwerthuso cynlluniau presennol.
Graddfa Ofodol: Clystyrau o gymunedau wedi’u dethol yn arbennig
ledled Cymru.
Themâu: 1, Economi a Chyflogaeth; 3, Allgáu Cymdeithasol
a Chynhwysiant Cymdeithasol
Statws: Cwblhawyd.
2. Tlodi ac Allgáu Cymdeithasol yng Nghymru Wledig
Trosolwg: Gan ddefnyddio canfyddiadau allweddol o’r arolwg o gartrefi
cenedlaethol a data o’r GIS, bydd y prosiect hwn yn darparu archwiliad
manwl o natur a phrofiadau tlodi perthnasol ac agweddau ehangach ar
allgáu cymdeithasol yn ardaloedd gwledig Cymru. Bydd hefyd yn
canolbwyntio ar y ffyrdd y mae asiantaethau sy’n gweithio yng
Nghymru wledig wedi datblygu polisïau gwrth-dlodi a chynhwysiant
cymdeithasol i ddelio â chymunedau gwledig sydd o dan anfantais.
O fewn y prosiect hwn, rhoddir pwys mawr ar sut y caiff tlodi ac allgáu
cymdeithasol eu profi gan grwpiau difreintiedig gwahanol (megis pobl
mewn gwaith, pobl ddi-waith, yr henoed, pobl ifanc, pobl anabl) yn ardaloedd
gwahanol Cymru wledig.
Dulliau: Dadansoddi data ystadegol o’r arolwg cartrefi a’r
GIS, arolwg o ystod eang o asiantaethau lles, grwpiau ffocws a chyfweliadau
gyda grwpiau tlawd a grwpiau sydd wedi’u hallgáu yn gymdeithasol.
Graddfa Ofodol: Cymru Wledig ac ardaloedd / mentrau polisi dethol
Themâu: 2, Yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Chynllunio Defnydd Tir;
3, Allgáu Cymdeithasol a Chynhwysiant Cymdeithasol; 4, Tai a
Gwasanaethau; 5, Cymdeithas a Chymuned.
Statws: Cwblhawyd.
3. Cynaliadwyedd Trefniadol Mentrau Adfywio Gwledig
Trosolwg: Bydd y prosiect hwn yn archwilio’r ffactorau sy’n
dylanwadu ar gynaliadwyedd hirdymor mentrau a phartneriaethau adfywio
gwledig, gan gynnwys y strategaethau a fabwysiedir gan fentrau o ran
addasu i newidiadau i gyfundrefnau arian a rhaglen. Bydd y prosiect
yn canolbwyntio ar hyd at ddeg menter a sefydlwyd yn y cyfnod rhwng
dechrau a chanol y 1990au, gan gynnwys prosiectau o fewn rhaglenni LEADER
II a Menter Tref Farchnad DBRW. Caiff cyfweliadau gyda swyddogion cyfredol
a blaenorol, gweithwyr a chynrychiolwyr partner eu defnyddio i siartio
datblygiad y fenter yn ystod y degawd diwethaf ac i drafod materion
sy’n dylanwadu ar ffurf, gweithrediad ac effeithiolrwydd trefniadol
y fenter. Bwriedir na fydd tair o’r deg menter a astudir yn parhau
i weithredu ac ar gyfer y mentrau hyn, cynhelir cyfweliadau gyda swyddogion,
gweithwyr a chynrychiolwyr partner blaenorol i sefydlu’r rhesymau
dros ddod â’r fenter i ben.
Dulliau: Hyd at 50 o gyfweliadau, wedi’u hategu gan ymchwil ddogfennol
sy’n seiliedig ar y ddesg neu ymchwil ddogfennol sy’n seiliedig
ar y we.
Graddfa Ofodol: Amrywiol – canolbwyntio ar fentrau ac nid ar ardaloedd
Themâu: 1, Economi a Chyflogaeth; 3, Allgáu Cymdeithasol
a Chynhwysiant Cymdeithasol; 4, Tai a Gwasanaethau; 5, Cymdeithas a
Chymuned.
Statws: Cwblhawyd.
4. Adeiladu Gallu ac Arweinyddiaeth Leol yng Nghymru Wledig: Symudiad
a datblygiad cymunedau a chyfalaf cymdeithasol
Trosolwg: Bydd y prosiect hwn yn ceisio nodi’r prosesau a ddefnyddir
i greu, cynnal, datblygu a defnyddio ‘cyfalaf cymunedol neu gymdeithasol’
yng Nghymru wledig. Gan ddefnyddio tystiolaeth o’r arolygon cenedlaethol
a set gynrychioliadol o astudiaethau achos, bydd ymchwiliadau lleol
manwl yn archwilio’r berthynas rhwng ‘cyfalaf cymunedol
neu gymdeithasol’ a gweithgareddau cyngor cymuned ffurfiol, cyswllt
cysylltiadol anffurfiol (gwirfoddol) a mentrau adfywio cymunedol a hyrwyddwyd
yn ddiweddar. Mae pob arena yn meithrin gallu trigolion i gymryd rhan
mewn mentrau datblygu mewndarddol lleol ac mae’n creu cyfle i
gynnwys trigolion sefydledig ac iau yn y broses adfywio gwledig.
Dulliau: Caiff astudiaethau achos cynrychioliadol a ddewisir ar sail
yr arolwg o gartrefi cenedlaethol (adran gweithgareddau cysylltiadol),
adolygiad menter polisi ac arolygon cenedlaethol Comisiwn Cludo a Chylchredeg
(T&CC) Llywodraeth Cynulliad Cymru eu nodi. Yna, bydd cyfweliadau
arbennig gyda rhanddeiliaid mewn pedair ardal yn archwilio’r strategaethau
a fabwysiadwyd i annog cyfranogiad cymunedol lleol, llwyddiant mentrau
unigol a’r heriau a wynebir wrth symud trigolion lleol. Bydd cyfarfodydd
cyhoeddus/grwpiau ffocws ym mhob ardal a ddewisir yn sefydlu profiad
lleol y mentrau hyn ac yn ceisio penderfynu a gwerthuso’r buddiannau
a’r galluoedd a ddatblygwyd.
Graddfa Ofodol: Astudiaethau achos lleol â chroesgyfeiriad at
y cyd-destun cenedlaethol
Themâu: 3, Allgáu Cymdeithasol a Chynhwysiant Cymdeithasol;
5, Cymdeithas a Chymuned.
Statws: Cwblhawyd.
Cymal 2
5. Digartrefdod yng nghefn gwlad Cymru
Trosolwg: Bydd y prosiect yma yn astudio natur newidiol a graddfa digartrefdod
yng nghefn gwlad Cymru, yn archwilio ymateb cyfredol asiantaethau, nodi
anhawsterau allweddol i draddodi gwasanaethau i bobl digartref yng nghefn
gwlad, ac i nodi ymarferion da o ddelio â digartrefdod.
Dulliau: dadansoddiad o ystadegau digarterdfod, cyfweliadau â
budd-ddeiliaid cenedlaethol, astudiaethau manwl
Graddfa ofodol: Cefn gwlad Cymru ac awdurdodau unol dethol/ mentrau
polisi
Themâu: 3, Allgáu Cymdeithasol a Chynhwysiant Cymdeithasol;
4, Tai a Gwasanaethau; 5, Cymdeithas a Chymuned
Statws: Cwblhawyd.
6. Tai Fforddiadwy yng Nghymru Wledig: Asesu angen a chyflenwi datrysiadau
cynaliadwy
Trosolwg: Bydd y prosiect hwn yn darparu’r dystiolaeth gynhwysfawr
gyntaf ar natur a graddfa yr angen am dai, a mentrau polisi sydd wedi’u
hanelu at ddelio ag angen o’r fath yng Nghymru wledig. Bydd yn
canolbwyntio ar broblemau sy’n ymwneud â natur fforddiadwy
tai ac yn archwilio’r cysylltiadau rhwng y gallu i fforddio tai,
strwythurau tai, systemau cynllunio a’r gystadleuaeth am dai yng
Nghymru wledig. Bydd y prosiect yn defnyddio canfyddiadau o’r
arolygon cenedlaethol ac astudiaeth barhaus o dai gwledig (a ariannwyd
gan Lywodraeth Cynulliad Cymru). Rhoddir sylw hefyd i raddau digartrefedd
yng Nghymru wledig ac ymatebion polisi i hyn.
Dulliau: Bydd y prosiect yn seiliedig ar gasglu gwybodaeth ystadegol
ar raddfa a natur yr angen am dai gwledig a digartrefedd, arolwg post
o asiantaethau perthnasol, a chyfweliadau dilynol gydag asiantaethau
ymatebol dethol.
Graddfa Ofodol: Cymru Wledig ac awdurdodau unedol / mentrau polisi dethol
Themâu: 2, Yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Chynllunio Defnydd Tir;
3, Allgáu Cymdeithasol a Chynhwysiant Cymdeithasol; 4, Tai a
Gwasanaethau; 5, Cymdeithas a Chymuned.
Statws: Adroddiad i ddilyn yn fuan
7. Trefi Marchnad a’u Cyffiniau: Rhyngweithio Cymdeithasol ac
Economaidd
Trosolwg: Bydd y prosiect hwn yn archwilio’r rhyngweithio cymdeithasol
ac economaidd rhwng trefi marchnad a’u cymunedau cymdogol, drwy
astudiaethau achos o bum tref mewn gwahanol rannau o Gymru wledig. Bydd
ymchwiliadau i ryngweithio economaidd yn cynnwys mapio ‘ôl
traed economaidd’ y trefi drwy astudiaethau sy’n seiliedig
ar gyflogaeth, caffael busnes a gwerthiannau. Bydd ymchwilio i ryngweithio
cymdeithasol yn cynnwys mapio ‘ôl traed cymdeithasol’
trefi drwy astudiaethau sy’n canolbwyntio ar y defnydd a wneir
o wasanaethau, aelodaeth o glybiau a chymdeithasau a chymryd rhan mewn
digwyddiadau cymdeithasol, diwylliannol a dinesig lleol. Bwriad y prosiect
fydd mynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â
ph’un a yw buddsoddiadau economaidd mewn trefi bach yn ‘ymdreiddio’
i gymunedau cyfagos a ph’un a yw buddsoddiad cymdeithasol mewn
trefi yn ddigonol i wasanaethu ardaloedd gwledig ehangach.
Dulliau: Bydd y prosiect yn defnyddio data o gronfa ddata GIS, yr arolwg
o gartrefi a’r arolwg o fusnesau. Yn ogystal â hyn, bydd
pob astudiaeth achos yn cynnwys arolwg pellach o gyflogwyr lleol; arolwg
o glybiau a chymdeithasau lleol; cyfweliadau gyda chynrychiolwyr busnes,
swyddogion y gymdeithas a threfnwyr digwyddiadau (tua 10 y cant fesul
astudiaeth achos); a dadansoddiad o erthyglau papur newydd lleol.
Graddfa Ofodol: Trefi marchnad sydd â phoblogaeth rhwng 2,500
a 10,000 o bobl.
Themâu: 1, Economi a Chyflogaeth; 4, Tai a Gwasanaethau; 5, Cymdeithas
a Chymuned.
Statws: Adroddiad i ddilyn yn fuan
8. Arwyddocâd Newidiol y Sector Cyhoeddus yng Nghymru Wledig
Trosolwg: Bydd y prosiect hwn yn archwilio arwyddocâd newidiol
y sector cyhoeddus yng Nghymru wledig, o safbwynt economaidd a chymdeithasol.
Mae gan ardaloedd gwledig ddibyniaeth uwch na’r cyfartaledd o
ran cyflogaeth yn y sector cyhoeddus ac arian gan y sector cyhoeddus.
Bydd y prosiect hwn yn sefydlu llwybr blaenorol gwariant a chyflogaeth
gyhoeddus, ac yn asesu tueddiadau tebygol y dyfodol. Bydd hefyd yn mapio
gwasgariad cyflogaeth a gwariant cyhoeddus ledled Cymru wledig i siartio’r
ardaloedd hynny â’r crynodiad mwyaf. Yn gymdeithasol, mae’r
sector cyhoeddus yn darparu ystod o wasanaethau – o’r crud
i’r bedd – ond mae’r rhain yn cael eu hailffurfio
fwyfwy mewn oes o bartneriaethau cyhoeddus-preifat. Bydd y prosiect
yn edrych ar ddylanwad newidiol y sector cyhoeddus ar draws ystod o
feysydd gwasanaeth, a bydd eto yn cofnodi llwybrau blaenorol a thueddiadau’r
dyfodol. Gellir casglu llawer o’r data o ffynonellau dogfennol,
ond caiff cyfweliadau eu cynnal dros y ffôn gydag asiantaethau
sector cyhoeddus allweddol. Bydd y prosiect hefyd yn defnyddio data
o gronfa ddata darparu gwasanaethau GIS.
Dulliau: Hyd at 30 o gyfweliadau ffôn, wedi’u hategu gan
ymchwil ddogfennol sy’n seiliedig ar y ddesg neu’r we. Nifer
cyfyngedig o ymweliadau a chyfweliadau mewn ardaloedd astudiaethau achos.
Graddfa Ofodol: bydd data llinell sylfaen yn gynhwysfawr ar draws Cymru
wledig, gydag ardaloedd penodol yn cael eu dethol ar gyfer astudiaethau
achos.
Themâu: 1, Economi a Chyflogaeth; 4, Tai a Gwasanaethau; 5, Cymdeithas
a Chymuned.
Statws: Cwblhawyd.
Cymal 3
9. Perfformiad a Datblygiad yr Eco-Economi
Trosolwg: Archwilio, gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau, sut y gellir
gwella’r synergedd posibl rhwng adnoddau amgylcheddol a gweithgareddau
economaidd; er enghraifft, rhwng twristiaeth, amaethyddiaeth/tirweddau
o safon a mynediad a chyfleusterau amgylcheddol.
Dulliau: Astudiaethau achos sy’n deillio o’r arolygon cenedlaethol,
yn ogystal ag archwilio arfer da a’i ymlediad posibl i ardaloedd
ehangach. Cyfweld â phobl allweddol megis dirprwyon a rhwydweithiau
sector preifat.
Graddfa Ofodol: samplau o’r ystod o gyd-destunau gwledig gwahanol
a geir yng Nghymru.
Themâu: 1, Economi a Chyflogaeth; 2, Yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd
a Chynllunio Defnydd Tir.
Statws: Cwblhawyd.
10. Ymdopi â Mynediad i Wasanaethau
Trosolwg: Mae angen llunio cysylltiadau rhwng cynllunio gofodol, ymagweddau
sy’n seiliedig ar arolygon ac ymagweddau ansoddol tuag at gyflwyno
gwasanaethau yng Nghymru wledig. Bydd hyn yn darparu cyfleoedd i fapio
patrymau newidiol systemau darparu gwasanaeth (ar raddfeydd gofodol
gwahanol, gan gynnwys y lefel pwynt) ac yn hwyluso asesiad o effeithiau
gwasanaethau gwahanol (neu ddiffyg gwasanaethau) ar grwpiau penodol
o fewn ardaloedd gwledig. Y nod allweddol yma fydd cael dealltwriaeth
well o dactegau ymdopi a fabwysiedir gan unigolion a grwpiau mewn cymunedau
gwledig i ddelio â cholli gwasanaethau gwahanol.
Dulliau: Bydd yr ymchwil yn defnyddio setiau data ar y lefel pwynt a
ddelir o fewn y GIS, sy’n cynnwys data ar gyfer y sefyllfa gyfredol
yn ogystal â data hanesyddol o leoliadau gwasanaethau allweddol
a ddelir gan y tîm prosiect mewn cronfa ddata GIS (sy’n
dyddio yn ôl i 1995). Bydd hefyd yn defnyddio dulliau ansoddol
i archwilio’r strategaethau ymdopi a ddefnyddir gan grwpiau gwahanol
yn arbennig yn ardaloedd yr astudiaethau achos.
Themâu: 3, Allgáu Cymdeithasol a Chynhwysiant Cymdeithasol;
4, Tai a Gwasanaethau; 5, Cymdeithas a Chymuned.
Statws: Adroddiad i ddilyn yn fuan
11. Dylanwadau Cymdeithasol a Diwylliannol Newid yn y Boblogaeth yng
Nghymru Wledig
Trosolwg: Bydd y prosiect yn archwilio newidiadau ym mhoblogaeth Cymru
wledig, gan edrych yn bennaf ar ddylanwadau cymdeithasol a diwylliannol
newid mewn poblogaeth ar fywyd cymunedau gwledig. Bydd yn darparu archwiliad
manwl o brosesau o fewnfudo ac allfudo mewn ardaloedd astudio dethol,
ac yn ymchwilio i’r ffyrdd y mae mudo yn gysylltiedig â
materion cymdeithasol, diwylliannol ac ieithyddol. Nod y prosiect fydd
dangos sut y mae cyfansoddiad poblogaeth yn penderfynu ar lefelau a
mathau o gyfalaf cymdeithasol a gynhelir yng Nghymru wledig.
Dulliau: Bydd y prosiect yn defnyddio data a gynhyrchir gan yr arolwg
o gartrefi a chronfa ddata GIS. Bydd hefyd yn defnyddio astudiaethau
achos manwl o gymunedau sy’n wynebu gwahanol fathau o bwysau poblogaeth
(e.e. stasis neu ddiboblogi yn erbyn mewnfudiad). Yn y cymunedau hyn,
defnyddir arsylwadau’r sawl sy’n cymryd rhan a chyfweliadau
lled-strwythuredig i archwilio effaith y newid yn y boblogaeth ar weithgareddau
cymunedol, gweithgareddau gwleidyddol a gweithgareddau diwylliannol.
Graddfa Ofodol: Newidiadau lefel macro ym mhoblogaeth Cymru wledig wedi’u
cyfuno ag astudiaethau manwl o gymunedau gwledig Cymru.
Themâu: 2, Yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Chynllunio Defnydd Tir;
3, Allgáu Cymdeithasol a Chynhwysiant Cymdeithasol; 4, Tai a
Gwasanaethau; 5, Cymdeithas a Chymuned.
Statws: Adroddiad i ddilyn yn fuan
|