Arsyllfa Wledig Cymru
    
  pobl
pobl

Mae gan Arsyllfa Wledig Cymru dîm ymchwil a rheoli craidd sy’n cynnwys saith ymchwilydd gwledig blaenllaw a ddewiswyd o blith staff academaidd yr Adran Cynllunio Dinesig a Rhanbarthol ym Mhrifysgol Caerdydd a’r Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Yn ogystal mae’n cyflogi pum aelod o staff ymchwil llawn amser. Darperir crynodeb o arbenigedd ymchwil staff yr Arsyllfa Wledig, ynghyd â manylion cyswllt, isod:


Cyfarwyddwr

Yr Athro Paul Milbourne
Lleoliad: Caerdydd                                                                                                         
Manylion cyswllt: Ffôn: 029 20 875791 - E-bost milbournep@cardiff.ac.uk

Mae Paul Milbourne yn Athro yn Adran Cynllunio Dinesig a Rhanbarthol, Prifysgol Caerdydd ac mae’n Gyfarwyddwr ar Ganolfan Ymchwil ar yr Amgylchedd a Chymdeithas Wledig y Brifysgol. Ymhlith ei arbenigedd ymchwil y mae allgáu cymdeithasol gwledig, tai a digartrefedd mewn ardaloedd gwledig, newid cymdeithasol a gwrthdaro yng nghefn gwlad, a’r amgylchedd gwledig. Ef yw Cadeirydd Grwp Astudio Economi a Chymdeithas Wledig y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) (sy’n dwyn ynghyd cymunedau academaidd, polisi ac ymarferwyr sydd â diddordeb mewn ardaloedd gwledig). Mae’n aelod o Bwyllgor Gweithredol y Gymdeithas Ewropeaidd dros Gymdeithaseg Wledig, ac yn aelod o Fwrdd Golygyddol y cylchgrawn Sociologia Ruralis. Mae Paul wedi cael £2 filiwn o grantiau a chontractau i ymgymryd â gwaith ymchwil ar ystod eang o bynciau gwledig gan gynnwys tlodi ac allgáu cymdeithasol, tai, digartrefedd, pobl ifanc, hela, coedwigaeth gymdeithasol, mewnfudiad a darparu gwasanaethau. Mae hefyd wedi ysgrifennu’n eang ar y pynciau hyn ac wedi cyhoeddi pum llyfr a mwy na 70 o erthyglau, penodau ac adroddiadau i gylchgronau.

Aelodau’r Tîm Ymchwil Craidd


Yr Athro Terry Marsden
Lleoliad: Caerdydd                                                                                                        
Manylion cyswllt: Ffôn: 029 20 875736 - E-bost marsdentk@cardiff.ac.uk
Mae Terry Marsden yn Athro ym maes Cynllunio a Pholisi Amgylcheddol yn Adran Cynllunio Dinesig a Rhanbarthol, Prifysgol Caerdydd. Mae ganddo brofiad ymchwil a pholisi eang yn ymwneud â’r themâu datblygu gwledig rhyngwladol, cynaliadwyedd a’r amgylchedd gwledig. Ar hyn o bryd, ef yw cyd-gyfarwyddwr canolfan ymchwil bwysig a ariennir gan ESRC (£3.1 miliwn) ar gynaliadwyedd ym Mhrifysgol Caerdydd (Canolfan ar gyfer Cysylltiadau Busnes, Atebolrwydd, Cynaliadwyedd a Chymdeithas) ac mae’n rhan o brosiectau sy’n ymwneud â rhwydweithiau bwyd mewn ardaloedd gwledig, rheolaeth amlhaenog o’r amgylchedd gwledig, a marchnadoedd llafur canolraddol yng Nghymru wledig. Yn ogystal â bod yn awdur mwy na 150 o adroddiadau, llyfrau ac erthyglau ar y themâu hyn, bu’n ymgynghorydd i Lywodraeth Cynulliad Cymru, Defra, Uned Strategol y Prif Weinidog ac ESRC ar ymchwil a pholisi gwledig. Ar hyn o bryd, mae’n aelod o Bwyllgor Ymgynghori Strategol Rhaglen Ymchwil Economi a Defnydd Tir Gwledig ESRC.

Dr Michael Woods
Lleoliad: Aberystwyth                                                                                                     
Manylion cyswllt: Ffôn: 01970 622589 - E-bost zzp@aber.ac.uk
Mae Michael Woods yn Uwch Ddarlithydd yn Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Prifysgol Aberystwyth. Mae’n arbenigo mewn polisi gwledig, rheolaeth gymunedol, gweithio mewn partneriaeth ac adfywio, a chyfranogiad ac arweinyddiaeth gymunedol. Ef oedd cyd-gyfarwyddwr yr astudiaeth ymchwil a gwblhawyd yn ddiweddar ar ‘Rôl, Swyddogaethau a Photensial Cynghorau Cymuned a Thref yng Nghymru yn y dyfodol’ a wnaethpwyd ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru. Ymhlith ei waith ymchwil blaenorol y mae gwaith ar gyfranogiad mewn arweinyddiaeth gymunedol yng Nghymru a Lloegr ar gyfer ESRC, a gweithio mewn partneriaeth ym maes adfywio gwledig yng Nghanolbarth Cymru ar gyfer Sefydliad Joseph Rowntree. Mae wedi ysgrifennu’n helaeth ar y pynciau hyn ar gyfer cynulleidfaoedd academaidd ac ymarferwyr ac mae wedi rhoi cyngor i Defra a’r Asiantaeth Cefn Gwlad ar gyflwyno’r cynllun Cyngor Plwyf o Ansawdd yn Lloegr. Mae wedi ysgrifennu dau lyfr, sef Rural Geography (Sage) a Contesting Rurality: Contemporary politics in the British countryside (Ashgate).


Partneriaid Ymchwil


Dr Lawrence Kitchen
Lleoliad: Caerdydd                                                                                                         
Manylion cyswllt: Ffôn: 029 20 874970 - Ebost kitchenl@cardiff.ac.uk
Mae Lawrence Kitchen yn Bartner Ymchwil yn Ysgol Cynllunio Dinesig a Rhanbarthol ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys coedwigaeth cymdeithasol, yn enwedig yng nghyd-destun cyfiawnder cymdeithasol, allgáu cymdeithasol, llywodraethu marchnad llafur canolradd, cynllunio gofodol, a chyfalaf cymdeithasol. Bu’n gweithio ar brosiectau ymchwil yn ymwneud â chadwynau bwyd yng nghefn gwlad; y berthynas rhwng y Comisiwn Goedwigaeth â chymunedau yn ne Cymru; y cyswllt rhwng yr amgylchedd ac allgáu cymdeithasol mewn ardaloedd gwledig ol-ddiwydiannol; gwerthuso’r Marchnadoedd Llafur Canolradd yng nghef gwlad; cynllunio gofodol a’r Comisiwn Coedwigaeth yng Nghymru; a chyfalaf cymdeithasol a phrosiectau’r Comisiwn Coedwigaeth yng Nghymru. Mae Lawrence yn awdur a chyd-awdur nifer o bapurau, penodau mewn llyfrau ac adroddiadau ar y testunau hyn.

Dr Nerys Owens 

                                                                                                                                    

Lleoliad: Caerdydd  
Manylion cyswllt: Ffôn: 029 20 874970 - Ebost OwensNE@cardiff.ac.uk
Ymunodd Nerys â’r Arsyllfa yn Gydymaith Ymchwil yn 2008 ar ôl cwblhau PhD mewn llywodraethiant coedwigaeth yn yr Ysgol Cynllunio Dinesig a Rhanbarthol ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn ei thraethawd doethurol daw â syniadau allweddol ynghyd ynghylch natur gymdeithasol, llywodraethiant a rheoleiddio i ddarparu ymchwiliad beirniadol i’r newidiadau yn llywodraethiant coedwigaeth yn y DU. Cyfeiria’n benodol at ddwy astudiaeth achos o goedwigoedd yng nghefn gwlad canolbarth Cymru. Fel deiliad gwobr CASE a ariannwyd gan yr ESRC a’r Comisiwn Coedwigaeth, mae hi wedi gwneud ymchwil sy’n rhoi sylw i gynulleidfaoedd polisi a chynulleidfaoedd academaidd. Yn ddiweddar, mae ei gwaith wedi ymwneud ag amrywiaeth mawr o themâu gwledig, gan gynnwys sialensiau darparu gwasanaethau yn y rhannau mwyaf anghysbell o gefn gwlad Cymru, tlodi ac allgáu cymdeithasol, tai, ynni adnewyddadwy ac, yn fwy diweddar, effeithiau’r dirwasgiad ar gefn gwlad Cymru. Mae ganddi brofiad uniongyrchol o faes cynllunio a darparu polisïau gwledig gan iddi dreulio cyfnod yn gweithio yn Adran Materion Gwledig Llywodraeth Cynulliad Cymru. O ganlyniad, mae’n ymddiddori mewn materion sy’n ymwneud â chymunedau cynaladwy ac, yn arbennig, mewn ffyrdd i helpu cymunedau lleol cefn gwlad i ymwneud yn llawn â phenderfyniadau sy’n ymwneud â’u bro ac i gymryd rhan yn y penderfyniadau hynny. Am fod ganddi wybodaeth helaeth o’r maes ac o’r datblygiadau diweddaraf mewn materion polisi a materion cymdeithasol, gall weithio’n effeithiol mewn ymchwil sy’n ymwneud â pholisi.
Mae Nerys yn siarad Cymraeg yn rhugl.

Dr Sophie Wynne-Jones

                                                                                                                                    

Lleoliad: Aberystwyth
Manylion cyswllt: Ffôn: 01970 6222608 - Ebost sxw@aber.ac.uk
Ymunodd Sophie â’r Arsyllfa ym mis Mawrth 2011 i ymchwilio i ddatblygiadau gwledig a diwygio’r Polisi Amaethyddol Cyffredin. Bwriad yr ymchwil yw gweithio gyda ffermwyr a chymunedau cefn gwlad Cymru a bwydo’r canlyniadau i’r broses o ddatblygu mesurau polisi gwledig, gan gynnwys taliadau Echel 2 ‘Glastir’ a’r fframwaith amgylcheddol ‘Cymru Fyw’. Yn ogystal, bwriedir i’r gwaith goladu’r arferion gorau o bob cwr o Ewrop wrth weithredu mesurau amaeth-amgylcheddol a darparu gwasanaethau ecosystemau, a bwydo’r canlyniadau i’r broses o fodelu senarios ar gyfer ymatebion i ddiwygio’r Polisi Amaethyddol Cyffredin yng Nghymru. Cyn ymuno â’r Arsyllfa, bu Sophie’n ddarlithydd yn y Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ym Mhrifysgol Aberystwyth, lle’r arbenigodd ar ddaearyddiaeth wledig a gwleidyddiaeth amgylcheddol. Yn 2010, ar ôl cael cyllid gan yr ESRC, fe gwblhaodd hi PhD yn y Sefydliad hwnnw. Canolbwyntiodd ei thraethawd ymchwil ar ddatblygiad gwasanaethau i’r ecosystemau yng Nghymru. Ynddo, manylodd ar yr elfennau gwleidyddol ac economaidd sydd y tu ôl i’r mecanweithiau llywodraethu hynny, a rhoes sylw i wleidyddiaeth ehangach diwygio’r Polisi Amaethyddol Cyffredin a’r trafodaethau ar fasnach y byd, yn ogystal â rôl ymarferwyr yn y maes fel cyfryngwyr polisi. Yn ogystal, mae hi wedi ymchwilio gyda Menter y Trefi sy’n Trawsnewid a gweithredwyr cymunedol ledled Cymru i ymatebion i’r newidiadau yn yr hinsawdd ac i’r oes ar ôl uchafbwynt y cyflenwad olew. Cyn hynny, bu’n gweithio i Ymddiriedolaeth John Muir i ddatblygu eu rhaglen o addysg amgylcheddol yng Nghymru a’r Alban.

Partner GIS


Jonathan Radcliffe
Lleoliad: Caerdydd                                                                                                        
Manylion cyswllt: Ffôn: 029 20 874970 - Ebost radcliffej@cardiff.ac.uk
Mae Jonathan yn Bartner Ymchwil ym Mhrifysgol Caerydd sy’n arbenigo yn y GIS. Mae ganddo brofiad o ddefnyddio ystod eang o’r meddalwedd GIS diweddaraf i ddatrys amrywiaeth o broblemau daearyddol, ac mae ganddo brofiad o gynnal setiau data gofodol.

 

Swyddog Cynorthwyol Prosiectau Ymchwil


Jayne Coleman
Lleoliad: Caerdydd                                                                                                        
Manylion cyswllt: Ffôn: 029 20 874956 - Ebost colemanje1@cardiff.ac.uk
Mae Jayne wedi ymuno â'r Arsyllfa yn ddiweddar ac yn darparu cymorth gweinyddol i'r tîm ymchwil.


  
disclaimer