Arsyllfa Wledig Cymru
    
  Trosolwg
trosolwg

Trosolwg o Arsyllfa Wledig Cymru


Mae Arsyllfa Wledig Cymru yn ymgymryd â gwaith ymchwil a dadansoddi annibynnol ar faterion cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru wledig. Fe’i hariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i gefnogi’r broses o lunio polisïau gwledig yng Nghymru sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Caiff yr Arsyllfa ei gweithredu gan dîm o ymchwilwyr gwledig arbenigol yn Adran Cynllunio Dinesig a Rhanbarthol, Prifysgol Caerdydd a Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Prifysgol Aberystwyth. Dechreuodd ei gwaith ym mis Medi 2003.


Mae gweithgareddau’r Arsyllfa yn canolbwyntio ar ddau brif faes: yn gyntaf, casglu a dadansoddi data gwledig, a chyflwyno’r data hwn o fewn System Wybodaeth Ddaearyddol (GIS); ac yn ail, ymgymryd â gwaith ymchwil ar faterion cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru wledig. Mae’r Arsyllfa yn canolbwyntio ei gweithgareddau ar y pum thema eang canlynol: Cyflogaeth ac Economi Wledig; yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Chynllunio Defnydd Tir; Cynhwysiant Cymdeithasol ac Allgáu Cymdeithasol; Darpariaeth Tai a Gwasanaethau; Cymdeithas a Chymuned.


Mae dau brif fath o allbynnau a dosbarthu sy’n gysylltiedig â rhaglen waith yr Arsyllfa. Yn gyntaf, cynhyrchir cyfres o adroddiadau, sy’n nodi prif ganfyddiadau elfennau ystadegol ac ymchwil ei rhaglen waith. Yn ail, mae gwefan benodedig wedi cael ei chreu i alluogi unigolion a sefydliadau gael mynediad at wybodaeth am brif weithgareddau ac allbynnau’r Arsyllfa.

  
disclaimer