Arsyllfa Wledig Cymru
    
  data gweledig
data gweledig

Mae casglu data gwledig i Gymru mewn system GIS yn elfen bwysig o raglen waith Arsyllfa Wledig Cymru. Mae’r rhan hon o’r wefan yn galluogi defnyddwyr i weld enghreifftiau o fapiau a data a gynhyrchwyd gan dîm yr Arsyllfa. Caiff y data gwledig ar gyfer yr Arsyllfa ei gynhyrchu gan ddefnyddio meddalwedd ArcInfo GIS ESRI ac mae’n defnyddio ystod eang o ffynonellau gan gynnwys data Cyfrifiad 2001, ystadegau economaidd NOMIS, ystadegau cymdogol y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac ystod eang o setiau data a gasglwyd gan sefydliadau amrywiol ar draws Cymru a thu hwnt. At ddibenion lansio’r safle hwn ceir nifer o fapiau enghreifftiol, ond y gobaith yw y bydd yr adran hon o’r safle yn datblygu’n ‘borth gwybodaeth’ ar gyfer data ar Gymru wledig yn ystod cyfnod Arsyllfa Wledig Cymru.

click 'map' to view
Map 1 - % Poblogaeth Economaidd Weithgar sy’n Ddi-waith (Data Cyfrifiad 2001 –lefel ward)

Map 2 – Incwm Crynswth (data o’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer 1998)

Map 3 - % Aelwydydd Heb Gar (Data Cyfrifiad 2001 – lefel ward)

Map 4 - % Tai Rhent Preifat (Data Cyfrifiad 2001 – lefel ward)

Map 5 - % Cymraeg Ethnig (Data Cyfrifiad 2001 – lefel ward)

Map 6 - % Cyfanswm Poblogaeth Cymreig sydd wedi symud (Data Cyfrifiad 2001 – lefel ward)

Map 7 - Newid yn y boblogaeth ar lefel ward yng Nghymru – 1991-2001

  
disclaimer